SL(6)736 – Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026
Cefndir a diben
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth o ganlyniad i weithredu darpariaethau Rhan 3 o Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022 ("Deddf 2022") yn ehangach yng Nghymru.
Cyflwynodd Deddf 2022 becyn o newidiadau deddfwriaethol mewn perthynas â diogelwch adeiladau. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o ddeddfwriaeth newydd sy'n rhan o weithredu Deddf 2022 gan Lywodraeth Cymru.
Mae rheoliadau newydd wedi'u cyflwyno sydd â’r nod o ddiwygio'r agweddau gweithdrefnol ar reoli adeiladau, yn enwedig ar gyfer adeiladau risg uwch. Daw'r gweithdrefnau newydd i rym ar 1 Gorffennaf 2026, a nod y Rheoliadau hyn yw sicrhau bod deddfwriaeth bresennol arall yn parhau i gael ei heffaith bresennol ar ôl y dyddiad hwn.
Mae rheoliadau 2 i 8 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Sir De Morgannwg 1976, Deddf Priffyrdd 1980, Deddf Cyngor Sir Clwyd 1985, Deddf Gorllewin Morgannwg 1987, Deddf Dyfed 1987, Deddf Cyngor Sir Morgannwg Ganol 1987 a Deddf Aer Glân 1993.
Mae rheoliadau 9 i 12 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Orchymyn Diwygio Rheoleiddiol (Diogelwch Tân) 2005, Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010, Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladu 2022 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2024 a Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024.
Mae rheoliad 13 yn gwneud darpariaethau trosiannol i sicrhau nad yw'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn effeithio ar waith adeiladu y rhoddir hysbysiad ar ei gyfer, neu lle caiff cynlluniau eu hadneuo, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Gweithdrefn
Gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pedwar pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.
Yn y pennawdau italig ar dudalennau 1 i 4, 14 a 16, mae'n nodi bod y Rheoliadau drafft wedi'u gosod gerbron Senedd Cymru "o dan adran 167(1) i (3) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022". Fodd bynnag, mae'r gofyniad i osod drafft i'w weld yn adran 167(5) o'r Ddeddf honno fel y nodir yn ail baragraff o’r rhagymadrodd i’r Rheoliadau hyn. Felly a ddylid dyfynnu "adran 167(5)" yn y pennawd yn hytrach nag "adran 167(1) i (3)", sef y pwerau galluogi?
2. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.
Yn rheoliad 4(3)(f)(ii)(aa), ymddengys bod gwall teipograffig sy'n golygu bod y diwygiad yn methu â nodi'n gywir y testun presennol i'w ddisodli ym mharagraff (c) o adran 19(7) o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985. Mae'n nodi “plans of the work consisting of, or including, the parking place has been deposited” ond dylai nodi “plans of the work consisting of, or including, the parking place had been deposited”, fel y ceir yn nhestun presennol y ddarpariaeth honno.
3. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn.
Yn rheoliad 8(2)(b), mae gwahaniaeth rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi y dylid mewnosod y diffiniad newydd ar ôl y diffiniad o "application for building control approval". Ond yn y testun Cymraeg, mae'n nodi y dylid mewnosod y diffiniad newydd ar ôl y diffiniad o "building control approval".
4. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.
Yn rheoliadau 3(4), 8(2)(b) a 11(2)(b), mewnosodir diffiniad newydd o "building control authority" yn Rheoliadau Deddf Priffyrdd 1980, Deddf Aer Glân 1993, a Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2024. Mae'r diffiniad newydd yn nodi ar bob achlysur “”building control authority” means the local authority as stated in section 121A of the Building Act 1984". Fodd bynnag, mae adran 121A o Ddeddf Adeiladu 1984 yn nodi mai'r rheoleiddiwr neu'r awdurdod lleol yw'r awdurdod rheoli adeiladu. Felly, a ddylai gyfeirio at "section 121A(1)(b) and (2) of the Building Act 1984" os mai'r bwriad yw cyfyngu ystyr "building control authority" i'r awdurdod lleol?
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
4 Chwefror 2026